Croeso Cynnes ~ Warmest Welcome
Mae Martin, Jan a’i mab Phillip ynghyd â Susy’r ci a’r staff cyfeillgar yn estyn croeso cynnes i chi flasu danteithion Tŷ’n Rhos – lle arbennig wedi ei leoli ym mhrydferthwch cefn gwlad rhwng Eryri ac Ynys Môn sydd gerllaw. Dyma dir sydd yn llawn chwedloniaeth ac hanes.
“Dyma dirwedd gwledig sydd yn fythol naturiol a thu hwnt o brydferth!”
Mae’r ystafelloedd gwely wedi eu dodrefnu yn safonol ac yn unigol ac mae ganddynt oll gyfleusterau en-suite, teledu sgrîn fflat lliw gyda ‘freeview’, dillad gwely Eifftiol cotwm gyda gorchuddion gwely a llenni pwrpasol, cot faddon a thaclau ymolchi moethus ac hambwrdd croeso. Mae yna bedwar ystafell wely Tra Frenhinol/Dwbl, dau ar y llawr cyntaf sydd â drysau patio yn agor allan i’r ardd sydd yn cynnwys dodrefn gardd a chysgod pabell. Mae’r ddwy ystafell wely fawr arall ar y llawr cyntaf gyda golygfeydd dros yr ardd a thu hwnt tuag at Ynys Môn a Chaernarfon. Mae yna hefyd ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod. Mae gweddill yr ystafelloedd ar y llawr cyntaf gyda chymysgedd o Tra Frenhinol/Dwbl, dwbl, gefell a sengl. Rydym hefyd wedi addasu’r beudy yn dair ystafell gwely buarth en-suite gydag un ohonynt yn cynnwys switshis a baddon a chawod lefel isel.
Gwasanaeth Limousine Preifat – Maes Awyr / Porthladd / Gorsaf Trenau. Antur Landrover 4x4 / taith bleser – gofynnwch am wybodaeth

